Top Strip Image

Prosiectau

Ieuenctid Canol Rhydyfelin

Ieuenctid Canol Rhydyfelin cwrdd bob dydd Mercher o 6.15 - 7:45yh, Mae'r grŵp yn addas ar gyfer plant 10 - 12 oed. Os hoffech ymuno, cysylltwch â kiara@valleyskids.biz

Grŵp Drama Dinas 

Ydych chi’n hoffi perfformio?

Os ydych chi eisiau rhywle i fod yn greadigol ac i wneud ffrindiau, yna efallai mai ymuno â grŵp drama yw’r ateb. 

Grŵp Drama Dinas

Bob dydd Iau 4-5yp ym Mhrosiect Dinas 

I gael rhagor o wybodaeth e-bost at: miranda@valleyskids.biz

Gweithdy Drama Rhydfelen

Grwp drama wythnosol sy’n cwrdd bob dydd Mercher o 4.30 - 6:00yh, Mae'r grŵp yn addas ar gyfer plant 8 - 13 oed. Os hoffech ymuno, cysylltwch â kiara@valleyskids.biz

Theatr Ieuenctid Rhydfelen

Grŵp drama ar gyfer oedran 13+, sy'n agored i unrhyw un sy'n mwynhau creu theatr. Cynhelir gweithdai bob wythnos ar ddydd Llun 6:00-8:00pm. Os hoffech ymuno, cysylltwch â kiara@valleyskids.org

Gweithdy Drama Penygraig

Grŵp drama wythnosol sy'n cyfarfod bob dydd Iau o 4:30 - 5:45pm, ar agor i oedran 7 - 12 yng Nghanolfan Soar ym Mhenygraig. Os hoffech ymuno cysylltwch â gemma@valleyskids.biz

Theatr Ieuenctid Penygraig

Grŵp drama wythnosol sy’n cyfarfod bob nos Iau am 6:00 – 8:00pm, yn agored i oedran 13-18+ yng Nghanolfan Soar ym Mhenygraig. Os hoffech chi ymuno, cysylltwch â kiara@valleyskids.biz

Theatr Ieuenctid Penyrenglyn

Rydym yn cwrdd bob dydd Mercher ym Mhrosiect Penyrenglyn am 5: 30yp - 7: 00yp. Mae'r grŵp yn addas ar gyfer plant 11 - 16 oed. Beth bynnag fo'ch gallu, os ydych chi am wneud ffrindiau newydd neu gael hwyl wrth fod yn greadigol, rydych chi'n sicr o gael rhywbeth i'w fwynhau yng Theatr Ieuenctid Penyrenglyn! Rydyn ni'n grŵp hamddenol, cyfeillgar sy'n cael llawer o hwyl yn creu drama. Os hoffech ymuno, cysylltwch â gemma@valleyskids.org.

Grŵp Creadigol Flight Wings

Mae'r grŵp Flight Wings ar gyfer 16+ oed. Ar hyn o bryd rydym yn cynnal gweithdai wythnosol ar ddydd Mawrth 4:00-5:45pm yn Stiwdio Sparc yn Y Ffatri yn y Porth. Mae’r grŵp yn creu parodïau o straeon traddodiadol yn ogystal â chreu rhai eu hunain sy’n llawn comedi. Os hoffech chi ymuno, cysylltwch â gemma@valleyskids.biz.

Dawns Greadigol Jiggers

Mae dawns Jiggers yn grŵp dawns creadigol ar gyfer plant 4-7 oed. Rydym yn cyfarfod bob dydd Llun rhwng 4:00 - 5:00pm yng Nghanolfan Soar ym Mhenygraig. Cysylltwch â gemma@valleyskids.org am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan.

www.afondance.org

Dawns Groovers

Mae dawns greadigol Groovers yn cael ei redeg mewn partneriaeth â dawns Afon ar gyfer unrhyw un rhwng 8-12 oed. Rydym yn cyfarfod bob dydd Llun rhwng 5:00 - 6:00pm yng Nghanolfan Soar ym Mhenygraig. Cysylltwch â gemma@valleyskids.biz am fwy o wybodaeth.

www.afondance.org

Gorsaf Radio

Mae ein gorsaf radio yn The Factory ar agor i raddedigion rhaglen hyfforddi Radio Platfform, i ddod i greu eu sioeau eu hunain.  Os ydych chi’n bwriadu dod draw, neu os hoffech chi wneud y rhaglen hyfforddi yn y dyfodol, cysylltwch â Zuzana os gwelwch yn dda.

Mentora a Chymorth

Fel rhan o’n rhaglen Flight Wings 16-25, rydym yn cynnig mentora a chymorth i bobl ifanc. Gall y sesiynau un am un hyn helpu gydag ysgrifennu CV, ceisiadau swyddi, technegau cyfweliad, gwaith cwrs ysgol, coleg neu brifysgol yn ogystal â darparu geirda cymeriad i’r rhai sy’n rhan o’r prosiect. Gallwn hefyd gynnig wyneb cyfeillgar a meddwl agored pan fydd pobl yn brin o gefnogaeth neu’n cael amser anodd ac angen rhywun i siarad gyda nhw. I drefnu sesiwn neu i gael mwy o wybodaeth cysylltwch â gemma@valleyskids.biz

Gwirfoddoli a Lleoli

Yn Sparc, rydym yn croesawu pobl i ymuno â ni ar leoliadau o’r ysgol, coleg neu brifysgol. Rydym yn hapus i helpu, boed hynny ar gyfer profiad gwaith neu leoliad cwrs penodol. Mae gennym hefyd raglen wirfoddoli ar gyfer pobl ifanc lleol a myfyrwyr i ddod i gymryd rhan mewn trefnu digwyddiadau, gweithdai drama a dangosiadau sinema. Mae gwirfoddoli yn caniatáu i bobl roi amser yn ôl i’r gymuned, yn ogystal â dysgu ystod o sgiliau, gan gynnwys hwyluso gweithdai, theatr dechnegol, cynllunio dilladau a setiau, gweinyddu a chynnal digwyddiadau/perfformiadau. Mae gwyliau ysgol yn adeg ddelfrydol i wirfoddoli ar un o’r nifer o brosiectau sy’n digwydd yn y cyfnod hwnnw. Mae pob lleoliad a phrofiad gwirfoddoli yn cael eu teilwrio ar gyfer yr unigolyn ac yn cael cefnogaeth lawn gan dîm o weithwyr gyda chymwysterau mewn celf ieuenctid. Os ydych chi’n 14+ gyda diddordeb mewn cymryd rhan, cysylltwch â gemma@valleyskids.biz

Arweiniad Cyfoedion

Mae Sparc yn rhedeg rhaglen, yn cael ei harwain gan gyfoedion, i’r bobl ifanc hynny sy’n awyddus i ddatblygu eu sgiliau, ac angen cymorth. Ar hyn y bryd mae gennym raglen ddawns, sy’n cael cefnogaeth tîm Sparc. Croesawn geisiadau gan bobl ifanc 16-25 oed sydd eisiau gwneud i rywbeth ddigwydd yn eu cymuned ac angen cefnogaeth a chymorth.

Gwnewch e!

Gwnewch e! Rhwydwaith newydd sbon, model comisiynu a theithio dan arweiniad ac ar gyfer artistiaid addawol yn Rhondda Cynon Taf (RhCT).

Mae Gwnewch e! yn fodel newydd o wneud theatr. Mae'n rhwydwaith sy'n cael ei arwain gan artistiaid addawol sy'n ceisio cysylltu pobl greadigol allddodol yn yr oedran 18 – 29 yn RhCT â'i gilydd. Mae Gwnewch e! hefyd yn anelu at arloesi'r ffordd y mae perfformiad yn cael ei gomisiynu, ei wneud a'i deithio. Mae’r prosiect yn rhedeg am 18 mis o fis Gorffennaf 2021 – Chwefror 2023. Ariennir gan ffrwd ariannu ail rownd 'Cysylltu â Ffynnu' Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd artistiaid addawol yn comisiynu ac yn creu arfer artistig eu hunain, yn cynhyrchu perfformiad eu hunain, ac yna'n teithio'r gwaith i leoliadau a mannau cymunedol ar draws RhCT a thu hwnt. 

Oedd Gwnewch e! yn alwad frys gan artistiaid addawol – gwelodd Covid 19 a’r 'Cyfnod Clo' bopeth yn dod i ben i raddedigion ac artistiaid gyrfa gynnar, yn enwedig y rhai o ardaloedd difreintiedig. Drwy Sparc, Valleys Kids cyfarfwyd grwp o artistiaid addawol i fynd i'r afael â'r broblem hon. Rhannwyd eu maniffestos unigol ar gyfer newid mewn cyfarfodydd agored gyda gweithwyr llawrydd a sefydliadau a oedd awyddus i'w cefnogi. O hyn cafodd y bartneriaeth ei geni.

Os hoffech ymuno, cysylltwch â yasmin

 

Life Hack 2022

Rhyddhau eich Creadigrwydd gyda Hacio Bywyd

Mae Hacio Bywyd yn ddigwyddiad creadigol rhad ac am ddim i bobl ifanc 14-25 oed o bob cefndir a gyflwynir trwy ein partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd â Chanolfan Mileniwm Cymru.  Ffair gyrfaoedd creadigol yw Hacio Bywyd gyda gweithdai creadigol rhyngweithiol, cyfleoedd rhwydweithio a disgo tawel i orffen y diwrnod! Eleni roedd gennym tua 35 o gyfranogwyr a 14 o hwyluswyr a mudiadau creadigol, gan gynnwys Off ya Trolley Productions, Square Pegs Studios, Promo Cymru, Citrus Arts, a Bardd Plant Cymru, Connor Allen. 

Mae Hacio Bywyd yn cael ei arwain gan bobl ifanc ac mae ganddo grŵp llywio sy'n cynnwys aelod o fudiad Plant y Cymoedd, Luke McGrath. Roedd ganddo rôl weithredol yn nigwyddiad digidol y llynedd a chafodd ei gyflogi i helpu eleni, gan ganiatáu iddo feithrin sgiliau rheoli digwyddiadau. Mae’r digwyddiad hwn wedi’i anelu at y sawl chwilfrydig ac yn rhoi cyfle i bobl ifanc ddarganfod mwy am yrfaoedd creadigol a gofyn unrhyw gwestiynau y dymunant.

 Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n cyllidwyr. Trefnir y digwyddiad hwn drwy ein partneriaeth Yn Gryfach Ynghyd â Chanolfan Mileniwm Cymru a chaiff ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru. 

Shwmae Cymraeg

Mae tîm Sparc yn caru’r iaith Gymraeg, does run ohonom yn rhygl ond rydym yn awyddus iawn i ddysgu. Pob pythefnos, byddem yn gosod her newydd i’n hunain a buasem wrth ein boddau pe baech yn ymuno hefo ni ar y daith hwyliog o ddysgu Cymraeg.

Rydym yn gobeithio bydd dysgwyr a siaradwyr Cymraeg yn gallu cymryd rhan er mwyn i ni helpu’n gilydd i ddysgu ein Cymraeg hyfryd.

Bydd pob her ‘Shwmae Cymraeg yn cael eu postio ar ein gwefan yn ogystal ac ar ein cyfryngau cymdeithasol. Gallwch ddod o hyd i’r dolenni fan hyn.

Puddle Jump: Adrodd Storiau Therapiwtig i Deuluoedd

Bellach, gyda chefnogaeth Cronfa Sefydlogi Covid-19 Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Sparc – Prosiect Celfyddydau Ieuenctid Plant y Cymoedd – wedi ymuno â’u tîm Teuluoedd y Dyfodol i gyrraedd y teuluoedd sydd eu hangen fwyaf. Mae’r pandemig wedi cynyddu’r pryderon ynghylch llesiant cymdeithasol ac emosiynol plant, ac yn enwedig materion sy’n gysylltiedig â gwytnwch. Bydd plant wedi colli anwyliaid ac wedi profi lefelau uchel o straen, yn enwedig pan fydd teuluoedd dan bwysau.

Mae Puddle Jump yn brosiect dweud storïau therapiwtig sy’n cynnig cefnogaeth i deuluoedd mewn ffordd greadigol a llawn dychymyg. Mae’r teitl, ‘Puddle Jump’, yn cyfeirio at sut mae plant yn ymateb i alar a thrawma drwy neidio i mewn ac allan o’r profiad hwn.

Mae’r storïau a ddewiswyd wedi’u hysgrifennu’n arbennig i alluogi plant i archwilio’r teimladau hynny mewn ffordd hygyrch. O linyn anweledig sy’n ein cysylltu ni â’n hanwyliaid lle bynnag y maent, i dylluan sy’n canfod man poeni, maent yn archwilio byd o ddychymyg i ysbrydoli sgyrsiau am lesiant.

Mae’r prosiect yn cael ei arwain gan Beth Caudle, sydd â dros ddeng mlynedd o brofiad o ddarparu prosiectau creadigol therapiwtig ar gyfer plant a theuluoedd ledled y DU. Bydd yn curadu cyfres o ddigwyddiadau ac adnoddau dweud stori ar-lein gyda’r tîm Teuluoedd y Dyfodol arbenigol i rymuso rhieni a gwarcheidwaid i gefnogi eu plant.  

Mae Beth yn egluro pwysigrwydd y gwaith hwn:

“Mae storïau’n declyn pwerus. Drwy ddweud storïau, gallwn helpu plant i brosesu profiadau a chanfod ffordd i ddechrau sgwrs ynghylch pethau neu deimladau y mae’n anodd siarad amdanynt weithiau.”

Bydd Beth yn arwain tîm o weithwyr llawrydd arbenigol a gomisiynwyd gan Sparc, gan ddefnyddio ei harbenigedd i drawsnewid storïau cyfredol a ddyluniwyd i helpu plant a’u teuluoedd i ymdopi â cholled, trawma a galar. Bu Sparc yn ymwybodol iawn o ba mor enbyd fu’r byd i weithwyr llawrydd hefyd yn y celfyddydau ac mae’n falch o allu cefnogi pobl broffesiynol hyfedr yn ystod yr cyfnod hwn, ar brosiect y maent yn angerddol iawn yn ei gylch. 

Fel y mae Miranda Ballin, Cyfarwyddwr Artistig Sparc, yn ei egluro:

“Rydym yn gweithio gyda gweithwyr llawrydd eithriadol sydd mor greadigol a llawn dychymyg, ac mae hyn yn gyfle i ddod â phobl gampus ynghyd i greu rhywbeth gwirioneddol arbennig. Allwn ni ddim disgwyl i rannu’r gwaith.”

Bydd yn cael ei rannu am y tro cyntaf ar 26ain o Awst am 11yb gyda theuluoedd a wahoddwyd (yn eu swigod cymdeithasol yng Nghanolfan Soar, Pen-y-graig - gan lynu at ganllawiau tyn Covid-19 a gymeradwywyd. Yma, bydd y teuluoedd yn cwrdd â storïwyr ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol a baratowyd o flaen llaw.

Dyma gam cyntaf Puddle Jump, a fydd yna’n arwain at ddigwyddiad terfynol ym Mis Tachwedd a fydd yn dwyn ynghyd ymarferwyr proffesiynol o sectorau’r celfyddydau, iechyd a llesiant. Dyma gyfle i edrych ar arferion celfyddydol yn y dyfodol yng ngoleuni’r pandemig a datblygu dulliau newydd o gydweithio, gan ganolbwyntio ar anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd. Bydd y prosiect Puddle Jump yn cael ei gyflwyno ochr yn ochr â gwaith y mae pobl ifanc yn eu harddegau wedi’i greu yn ystod yr amser hwn. 

 

Bydd storïau’n cael eu rhannu ar-lein hefyd fel adnodd fel y gall y tîm Teuluoedd barhau â’i waith hanfodol. Bydd y storïau’n cael eu cyflwyno mewn animeiddiad byr a ddarluniwyd yn hyfryd gan yr artist Angie Stevens ac a animeiddiwyd gan Guy Evans, Gweithiwr Celfyddydau Digidol Sparc. -- 

Tate Exchange

Valleys Kids a Sparc yw Tate Exchange Associates - darllenwch fwy am ein prosiect 2018 yma.