Yr Hyn a Wnawn Ni
Sparc Plus
Eisiau gwneud gwahaniaeth? Ymunwch â’n rhaglen 16+ Flight Wings (Sparc Plus). Rydym yn cynnig mentora a chymorth, y cyfle i wirfoddoli ar bob agwedd o gynhyrchu theatr ieuenctid yn ogystal â chreu’ch prosiectau eich hunain.
Rydym hefyd yn rhedeg grŵp integredig 16+ gyda phobl ifanc fethedig yn Rhydfelen. Rydym yn cynnig lleoliadau gwaith i ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Gweithdai Drama
Bob wythnos rydym yn rhedeg Gweithdai Drama yng nghanolfannau Valleys Kids ym Mhenygraig, Rhydfelen a Phenyrenglyn ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 7 a 13 - edrychwch ar y digwyddiadau i gael mwy o fanylion.
Gweithdai Dawns
Rydym yn cynnal rhaglen ddawns yng Nghanolfan Soar ym Mhenygraig. Rydym yn cefnogi gweithdai dawns creadigol Jiggers i’r plant llai 4-7 oed a Groovers i rai 8-12 oed sy’n cael eu rhedeg gan Ddawns Gymunedol Afon. Rydym hefyd yn rhedeg rhaglen ddawns stryd yn cael ei harwain gan gyfoedion ar gyfer pobl ifanc.
Theatrau Ieuenctid
Rydym yn rhedeg theatrau ieuenctid i rai 14+ yn Rhydfelen a Phenygraig lle gallwch lunio a chreu eich gwaith theatr eich hun gyda chefnogaeth cyfarwyddwyr theatr a gweithwyr celfyddydau ieuenctid. Gallwch gymryd rhan mewn cynllunio setiau, dilladau a gwneud propiau, gwaith technegol a marchnata.
Digwyddiadau Theatr a’r Celfyddydau
Rydym yn rhedeg rhaglen o theatr broffesiynol a digwyddiadau celfyddydol yng Nghanolfan Soar i gynnig cyfle i bobl ifanc a theuluoedd weld cynyrchiadau proffesiynol safon uchel am brisiau fforddiadwy.
Mae gennym gynllun clwb ar gyfer pobl ifanc o bob un o’n canolfannau Valleys Kids. Fel arfer maen nhw’n talu £1 neu lai i weld perfformiad - fel hyn gallwn fod mor gynhwysol ag sy’n bosib ac o ganlyniad mae nifer dda’n mynychu pob un o’n cynyrchiadau.
Nosweithiau Ffilm
Rydym yn rhedeg nosweithiau ffilm, a diolch i grant gan y BFI a Moviola mae gennym git sinema a all deithio i bob un o’n canolfannau ble gall pobl ifanc a theuluoedd wylio amrywiaeth o ffilmiau. Ar nosweithiau sinema byddwn yn aml yn cael digwyddiadau thematig gydag ymweliadau gan Sïon Corn neu de prynhawn, cerddoriaeth fyw, popcorn a danteithion i greu amgylchedd arbennig a’i gwneud yn noson i’w chofio.
Gwaith Rhyngwladol
Credwn ei bod hi’n bwysig fod gan bobl ifanc o’r Cymoedd gyfle i ddarganfod gwahanol brofiadau diwylliannol a chwrdd â phobl o bob rhan o’r byd. Mae Sparc wedi rhedeg prosiectau rhyngwladol yn Barcelona, Botswana, Gwlad Pwyl, Iorddonen, De Affrica a Seland Newydd, a bu’r rhain yn brofiadau i newid bywydau pobl ifanc. Trwy gymryd cam mor fawr cafodd llawer o’r rhai a gymerodd ran eu symbylu i fentro i addysg bellach a Phrifysgol ar ôl dod yn ôl, rhywbeth nad oedden nhw wedi ei ystyried cyn hynny.
Cydweithio a Phartneriaethau
Sparc ydyn ni – rydym bob amser yn gweld rhywbeth arbennig yn y bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw hyd yn oed ar adegau pan fyddan nhw’n cael ffwdan gyda hyn eu hunain. Rydym yn meithrin a chefnogi pobl ifanc yn enweig pan fyddan nhw’n wynebu heriau yn eu bywydau, ac rydyn ni bob amser ar gael iddyn nhw. Fodd bynnag, mae gennym ddyheadau i gael y gorau un i bobl ifanc yn y Cymoedd. Felly rydym bob amser yn gweithio mewn partneriaeth, yn lleol, cenedlaethol, trwy’r DU ac yn rhyngwladol i gynnig y cyfleoedd mwyaf ysbrydoledig a gafaelgar sydd ar gael.
Rydym yn gydymaith i Tate Exchange, y cyntaf yng Nghymru. Adeg y Pasg yn 2017 bu’n pobl ifanc yn perfformio i fwy na 4,000 o ymwelwyr yn y Tate Modern.
Mewn partneriaeth gyda Thai Cymdeithasol Trivallis ac Artes Mundi fe dderbynion ni grant Syniadau, Pobl a Lleoedd gan Gyngor Celfyddydau Cymru i weithio gyda chymunedau lleol ym Mhenygraig a Threbanog ar raglen adfywio seiliedig ar y celfyddydau, profiad aruthrol ble’r oedd pobl ifanc yn cydweithio gydag artistiaid rhyngwladol ac yn dweud eu dweud ynglŷn â sut i wneud newidiadau yn eu cymunedau.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, mae’n pobl ifanc wedi perfformio ar y prif lwyfan theatr, cymryd rhan mewn digwyddiadau awyr agored enfawr Ar Waith Ar Daith a City of the Unexpected Roald Dahl. Maen nhw’n mynychu digwyddiadau a gweithdai theatr yn gyson ac am y ddwy flynedd ddiwethaf mae Valleys Kids wedi cydweithio gyda staff y Ganolfan i ddatblygu’r bartneriaeth strategol y mae hyn ar fin ei gynnau - creu crochan o gyfleoedd a digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc a goleuo’r Cymoedd.
Sparc mewn Ysgolion
Mae Sparc yn gweithio’n agos gyda’n clwstwr o ysgolion lleol ym mhob maes allweddol.
Rydym yn rhedeg prosiectau mewn ysgolion gan gynnwys ffilm, theatr a ffotograffiaeth i weithio’n greadigol gyda disgyblion. Mae’r rhain yn cynnwys gweithdai, cyrsiau preswyl a phrosiectau gyda disgyblion bregus sy’n digwydd dros y blynyddoedd gan eu cefnogi ar daith i gyrraedd eu potensial. Rydym yn darparu cysylltiadau i bobl ifanc rhwng eu hysgolion, eu cymuned a’u cartrefi gan greu rhwyd ddiogelwch ble byddan nhw’n cael cefnogaeth lawn i ddychwelyd at addysg prif ffrwd, chwilio am gyflogaeth a darganfod hyfforddiant addas. Rydym yn cynnig lleoliadau tymor byr a thymor hir, mae athrawon mor gefnogol i’n gwaith ac yn aml yn rhyfeddu pan fydd pobl oedd cael pethau’n anos yn yr ysgol yn darganfod eu sbarc a symud ymlaen. Mae llawer o’n pobl ifanc wedi bod yn gyntaf yn eu teuluoedd i fynd i brifysgol, a fydden nhw byth wedi ystyried hynny oni bai iddyn nhw gymryd rhan yn y prosiect. Mae Sparc hefyd yn cefnogi ysgolion lleol sy’n llwyfannu eu cynyrchiadau eu hunain yng Nghanolfan Soar gan helpu gyda’r ochr dechnegol a’u galluogi i greu cynyrchiadau o safon uchel.