Top Strip Image

Ynglŷn â Sparc

Mae tîm Sparc yn rhan gynhenid o’r gwaith datblygu cymunedol yn Valleys Kids a gweithiwn gyda phobl ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau. Gan ddefnyddio technegau creadigol mae’r plant a’r bobl ifanc yn archwilio gwahanol feysydd yn eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill mewn ffordd gadarnhaol.

Pwy Ydyn Ni

Ym mhrosiect celfyddyd ieuenctid Plant y Cymoedd rydym yn defnyddio theatr a chelf i archwilio gwahanol feysydd yn ein bywydau, yn creu’n gwaith ein hunain a chydweithio gyda sefydliadau eraill sy’n codi’r ysbryd i sbarduno newid yn ein cymunedau.

Mae gweithdai Sparc yn cael eu rhedeg yn broffesiynol ac yn ddi-dâl, felly ymunwch â ni gan fod croeso i bawb.

Mae Sparc yn bartneriaeth rhwng gweithwyr celf ieuenctid proffesiynol a phobl ifanc a gyda’n gilydd byddwn yn ysbrydoli’r naill a’r llall a’r rhai o’n cwmpas i fod yn greadigol, cydweithio a chael hwyl. Rydym yn gynhwysol ac uchelgeisiol ar yr un pryd ac yn gweithio mewn amgylchedd o ymddiriedaeth a pharch. Mae pob gweithdy Sparc am ddim er mwyn sicrhau na fydd cost byth yn rhwystr i neb. Byddwn yn cymryd risgiau yn ein gwaith ond rydym yn ddiogel gyda’r naill a’r llall ac yn y ford honno’n annog pawb i dyfu a datblygu, derbyn heriau a chydweithio i greu gwell dyfodol i’n cymunedau ac i ni’n hunain.

Mae Sparc yn cael ei redeg yn bennaf gan weithwyr celf ieuenctid a hyfforddwyd yn broffesiynol ac a ddaeth i weithdai drama a theatr ieuenctid eu hunain pan oedden nhw’n blant, neu oedd yn dod o’r ardal ac y gwirfoddoli. Maen nhw’n deall o’r tu mewn y gwahaniaeth y gall y celfyddydau ei wneud o ran newid bywydau, ac maen nhw wedi dychwelyd i drosglwyddo’u profiad, gwybodaeth ac arbenigedd. Mae’r gweithwyr celf ieuenctid yn deall y rhwystrau y gall pobl ifanc eu hwynebu wrth gael mynediad i’r celfyddydau ac maen nhw bob amser wrth law i gynnig cymorth pan fydd angen ac i annog pobl i gymryd rhan mewn ffordd sy’n gymorth iddyn nhw.