Top Strip Image

Brand Sparc

Ydych chi’n chwilio am ganllawiau brand  Sparc ac asedau y gallwch eu lawrlwytho?   Gallwch eu cael yma.

The Sparc Logo

Beth sydd mewn Enw?

Cyn i ni fynd yn Sparc, ArtWorks oedd ein henw. Fodd bynnag, ers ein sefydlu yn 1988, rydym wedi cael ein galw’n llawer o bethau gan lawer o bobl - ArtWorks, Plant y Cymoedd (ein rhiant sefydliad), Clwb Beiciau, Soar, Dawns, Clwb Drama… mae gan bawb eu henw eu hunain amdanom, sydd fel y gallech ddychmygu wedi achosi peth dryswch. Gan eich bod i gyd wedi cael eich enwau eich hun amdanom, fe benderfynon ni wneud ymdrech i gytuno ar un enw yn barod am ein 20fed pen-blwydd  a’ch cael chi i’n helpu, yn swyddogol!

Yn ystod 2017 a dechrau 2018, fe fuon ni’n gweithio gyda rhai o’n haelodau ifanc, ein gwirfoddolwyr, a’r stiwdio ddylunio Gymreig Webber Design i fathu enw newydd oedd yn ein gwir gynrychioli ni (a chi!). Cawsom nifer o weithdai lle’r oedd Webber Design yn esbonio enwi brand, dylunio 101, a brandio yn gyffredinol. Oddi yno fe ddechreuon ni gyfyngu i’r hyn ydyn ni yn ei gylch go iawn, beth ydyn ni’n ei olygu i chi, beth ydyn ni’n ei olygu i’n sefydliadau sy’n bartneriaid, a’r hyn y dylen ni fod yn anelu ato wrth fynd ymlaen.  Roedd rhaid iddo fod yn fyr ac i'r pwynt, yn gynrychioladol ac, yn ddelfrydol, yn ddwyieithog.

Ac ar ddiwedd y gweithdai fe gyrhaeddon ni o’r diwedd y penderfyniad terfynol: Sparc!

Edrych yn dda!

Datblygwyd y delweddau gweledol yn seiliedig ar yr enw a’n syniadau a ddaeth o’r gweithdai. Cyflwynwyd dau lwybr dylunio i ni ("Swoosh" a "Block") a rhoddodd ein grŵp dylunio le i adborth. Dyma rai o’r pethau ddywedwyd!

  • Rwy’n hoffi’r swoosh, rwy’n teimlo’i fod yn fwy cynhwysol i grŵp oed ehangach!
  • Rwy’n hoffi’r syniad ei fod yn ‘swoosh’ oherwydd y llinell tag a chael effaith brwsh ac rwy’n meddwl y bydd yn dal llygaid pobl yn well wrth gyrchu’r tudalen a bod yn fwy croesawgar a chartrefol.
    Mae’n unigryw a gwreiddiol iawn (Swoosh)
  • Fe ddewisais i hwn am fy mod i’n teimlo’i fod y fwy amrywiol a bod modd ei ddefnyddio mewn nifer o ffyrdd a hefyd bod y logo swoosh yn fwy o hwyl, yn fwy creadigol a bod ganddo fwy o bersonoliaeth. Rwy’n teimlo fod y dyluniad arall yn rhy ‘flociog’ ac na fyddai’n gweddu i 'artworks' (Swoosh)
  • Rwy’n caru’r ddau ond mae’n well gen i Swoosh ar y cyfan. Er bod y Bloc yn syniad gwir ddiddorol mae’n well gen i’r Sparc ar ddiwedd y logo Swoosh ac rwy’n teimlo efallai y gallai newid y lliwiau neu’r graddiant arno gael yr un effaith. Ar ôl eu dangos i rai ffrindiau i gael eu hadborth fe awgrymon nhw fod y logo Bloc braidd  yn blentynnaidd a allai fod yn broblem i’r grwpiau hŷn. Gwaith gwych ar y ddau logo a pha un bynnag a gaiff ei ddewis yn y diwedd mi fydd yn gweithio!

Ar ôl i’r pleidleisiau a’r sylwadau gael eu rhoi, roedd y cynllun "Swoosh" fwy na 90% ar y blaen. Fodd bynnag, yn ystod y cyflwyniad i aelodau ieuengaf ein cymuned, roedd yn well ganddyn nhw’r dull  "Block" oherwydd ei fod mor lliwgar. Ein penderfyniad? Cyfuniad o’r ddau, a arweiniodd at hunaniaeth brand lliwgar, bywiog a deinamig! Mae’r ddelwedd yn seiliedig ar fotiff tanllyd, sbarclyd, darluniol, llawn egni a chreadigrwydd, ond byth yr un fath yn union ddwywaith. Yn unigryw ac unigol, yn union fel ein cyfranogwyr.

Ei berchnogi

Yn ystod "lansiad meddal" ein brand ym Mawrth 2018, fe wnaethom gyfres o weithdai a gwahodd pobl i ymuno, gan eu hannog i greu eu Sparc EU HUNAIN! Gallwch weld y canlyniadau ar wefan Sparc, yn eu horielau eu hunain yma ac yma yn ogystal ag yn rhai o’n darnau i ddod. Byddwn yn ychwanegu mwy yn y dyfodol, felly mae can croeso ichi wneud rhywbeth a’i anfon atom ni. Byddem wrth ein bodd yn gweld eich creadigrwydd ar waith.

Fe dynnon ni lawer o luniau hefyd yn ystod y digwyddiad a’r gweithdy ysgrifennu-mewn-golau! Maen nhw i gyd yn ein horiel. Bydd ein prosiectau a’n cyfranogwyr yn cael eu hychwanegu at ein horiel sy’n tyfu o hyd, felly daliwch i dynnu lluniau!

Beth nesaf?

Gan symud ymlaen, ni yw Sparc! Yr un bobl ydyn ni o hyd, yr un angerdd, yr un pwrpas — tanio, ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl ifanc — ond nawr rydych chi’n gwybod beth i’n galw ni. Byddwn yn gosod ein delweddau newydd hardd ar draws ein defnyddiau cynhyrchu a hyrwyddo. Yn ogystal â theimlad o hunaniaeth, gobeithio y bydd hyn yn ein gyrru ymlaen i dir newydd yn y dyfodol!