Top Strip Image

Cyfarfod â Thîm Sparc

Mae tîm Sparc yn rhan gynhenid o waith datblygu cymunedol gyda Valleys Kids ac rydym yn gweithio gyda phobl ifanc mewn nifer o leoliadau. Gan ddefnyddio technegau creadigol mae plant a phobl ifanc yn archwilio gwahanol feysydd yn eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill mewn ffordd gadarnhaol. Mae’n staff i gyd yn ymhyfrydu mewn tanio creadigrwydd pobl ifanc.

Miranda Ballin

Miranda Ballin ydw i, Cyfarwyddwr Artistig Sparc. Cyrhaeddais yn gyntaf yn 1990 pan oeddwn i’n gweithio i Theatr Powys fel actor a theimlais yn gwbl gartrefol gyda Valleys Kids. Penderfynais ei bod hi’n bryd imi blannu gwreiddiau ar ôl blynyddoedd o deithio theatrau mewn ysgolion a chymunedau fel actor proffesiynol a chyfarwyddwr theatr.

Yn 1998 gweithiodd staff rhyfeddol Valleys Kids gyda fi i wneud cais loteri ar gyfer sefydlu prosiect celfyddydau ieuenctid, a chafodd Sparc ei greu.

Bellach mae pobl ifanc a myfyrwyr wnaeth ddarganfod cariad at y celfyddydau trwy weithio ochr yn ochr â thîm Sparc yn rhedeg y prosiect eu hunain ac rwyf wrth fy modd gyda hynny! Y Cymoedd yw fy ngartre ac rwyf eisiau helpu pobl ifanc o’r ardal i ddarganfod eu potensial ar eu telerau eu hunain. Mae Sparc yn gwbl gynhwysol a gall unrhyw un ymuno yn y gwaith. Rwy’n mwynhau gweithio mewn cydweithrediad gyda phobl a sefydliadau sy’n ysbrydoli ac rwyf mor falch fod ein staff a’n pobl ifanc wedi gweithio’n rhyngwladol gyda phobl o wahanol ddiwylliannau a chefndiroedd gan barhau i ddysgu oddi wrth y naill a’r llall.

Darllen Mwy

Gemma Fraser-Jones

Rwyf wedi bod yn rhan o Valleys Kids er pan oeddwn i’n blentyn, ac ar ôl graddio o Brifysgol De Cymru ymunais â’r tîm celfyddydau ieuenctid yn 2009, gan lansio rhaglen greadigol Flight Wings 16-25. Rwyf wrth fy modd y gweithio gyda phobl o bob cefndir a gallu a chreu straeon trwy theatr a symud.

Mae cwblhau fy TAR wedi fy ngalluogi i fentora a chefnogi llawer o bobl ifanc o fewn Valleys Kids ac annog pobl i fynd i mewn i addysg bellach a hyfforddiant. Rwy’n mwynhau bod yn rhan o brosiect mor gynhwysol, deinamig a hygyrch ble mae croeso i bawb gymryd rhan a’u mynegi eu hunain mewn ffordd greadigol.

Darllen Mwy

Kiara Sullivan

Kiara Sullivan ydw i, ac rwyf wedi bod yn gysylltiedig â Sparc a Phlant y Cymoedd ers pan oeddwn yn 7 mlwydd oed. Dechreuais gyda gweithdai drama cyn symud ymlaen i theatr ieuenctid, a chefais nifer o brofiadau a chyfleoedd arbennig o fewn y prosiectau hyn. Cymerais ran mewn rhaglen Gyfnewid Ryngwladol lle cefais y cyfle i fynd i Wlad Pwyl a gweithio gyda phobl ifanc o Wlad Pwyl a Georgia. Perfformiais hefyd yn yr ŵyl gelfyddydau gyntaf a gynhaliwyd gan bobl ifanc, sef Rawffest a gynhaliwyd yng Nghasnewydd. Yn ystod fy nghyfnod o gymryd rhan, cefais gyfle hefyd i wirfoddoli mewn clwb ar ôl ysgol a phrosiectau theatr yn yr haf yn lleoliadau eraill Plant y
Cymoedd.

Cefais fy ysbrydoli gymaint gan waith y Gweithwyr Celfyddydau Ieuenctid a sut roeddent yn darparu’r cyfleoedd hyn o fewn fy nghymuned fel fy mod i eisiau gwneud yr un peth ar gyfer y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc. Enillais radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Drama Gymhwysol yn 2020 o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Fi yw’r Gweithiwr Celf Ieuenctid diweddaraf o fewn Sparc. Gweithiais yn ddiweddar i Ganolfan Mileniwm Cymru fel Cynorthwyydd Cynhyrchu ar gyfer Ymyriadau Pwerus, y comisiwn cyntaf erioed dan arweiniad pobl ifanc yn y Ganolfan. Ochr
yn ochr â hyn, roeddwn yn cydweithio ar nifer o brosiectau cyffrous a fydd gobeithio’n arwain y ffordd tuag at y newid sydd ei angen ar hyn o bryd yn sector y celfyddydau. Mae’r prosiectau hyn yn cynnwys cynyddu’r ymwybyddiaeth o gwmpas Kickstart a chwarae rhan
fawr mewn rhwydwaith newydd ar gyfer artistiaid addawol yn Rhondda Cynon Taf o’r enw ‘Gwnewch e’. Rwyf wrth fy modd fy mod yn rhan o Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau'r Dyfodol. Fel rhan o hyn, fi yw cynrychiolydd Canolfan Mileniwm Cymru fel rhan o'r bartneriaeth Yn Gryfach Ynghyd gyda Phlant y Cymoedd. Byddaf o hyd yn angerddol ynghylch cefnogi pobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed ac i greu’r newid y maent am ei weld.

Darllen Mwy

Alan Humphreys

Alan Humphreys ydw i, ac rwy’n Gynhyrchydd yn y tîm Dysgu Creadigol yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Fy rôl yw goruchwylio’r bartneriaeth strategol rhwng y Ganolfan a Sparc Plant y Cymoedd, sy’n anelu at ddarparu mwy o gyfleoedd creadigol i bobl ifanc yng Nghymoedd y De. Rwyf mewn sefyllfa lwcus iawn i allu rhannu fy amser rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Sparc, sy’n golygu fy mod yn cael cyfle i weithio gyda dau dîm gwych!

Mae gennyf gefndir yn y theatr gan fy mod wedi treulio llawer o fy nauddegau fel perfformiwr, cyn symud i waith cynhyrchu, yn gyntaf drwy ffilm ac yna’r celfyddydau ehangach. Ymunais â Chanolfan Mileniwm Cymru yn 2018 ac rwy’n teimlo’n angerddol ynghylch ymestyn y tu hwnt i’n cartref ym Mae Caerdydd i’r Cymoedd, er mwyn gwrando ar bobl ifanc yn yr ardal a dysgu ganddynt a sicrhau bod y Ganolfan yn gymaint o gartref iddyn nhw ag ydyw i bobl ifanc Caerdydd.

Darllen Mwy

Hannah Lad

Hannah ydw i ac rwy’n ysgrifennydd, yn actor ac yn hwylusydd sy’n dod i’r amlwg, ac rwy’n dod o’r Porth yn Rhondda Cynon Taf. Rwy’n mwynhau creu darnau o theatr sy’n cynrychioli cynulleidfaoedd ac artistiaid dosbarth gweithiol mewn modd dilys. Rwy’n mwynhau siarad am faterion pwysig drwy gomedi. Rwy’n teimlo’n angerddol dros wneud theatr sy’n hygyrch i bawb, drwy ddulliau hwyluso drama. Ar hyn o bryd, fi yw’r arweinydd rhwydwaith / cyfranogi ar Rwydwaith Artistiaid sy’n dod i’r Amlwg Gwnewch e! ac rwy’n un o weithwyr cyswllt Sparc. 

Yasmin WIlliams

Yasmin ydw i. Cefais fy magu ym Mhort Talbot ac rwyf bellach yn byw yn Rhondda Cynon Taf. Rwy’n weithiwr, yn gynhyrchydd ac yn berfformiwr theatr sy’n dod i’r amlwg.  Mae gennyf ddiddordeb mewn prosesau arbrofol, ar y cyd, sy’n dweud storïau go iawn ac mewn canfod dulliau newydd o greu a rhannu perfformiadau. Bu’n gyffrous iawn meithrin perthynas â Sparc ers symud i RhCT, a bod yn rhan o’r gwaith anhygoel a phwysig y maent yn ei wneud a gallu dysgu a thyfu gyda’u cefnogaeth. Rwyf bellach yn Weithiwr Cyswllt i Sparc ac yn gweithio ar Gwnewch e! mewn rôl farchnata a gweinyddu.  

Bethan Marlow

Rwy’n cael fy adnabod ym myd y theatr Gymraeg fel awdur sy’n creu bydoedd ffuglen sy’n cynnwys lleisiau go iawn. O theatr gair am air i gynyrchiadau safle-benodol gyda ac o fewn cymunedau ar gyrion ein cymdeithas, mae fy ngwaith bob amser yn gynrychiolaeth gwir o'r Cymru yr ydym yn byw ynddi heddiw. Rwy'n canolbwyntio'n bennaf ar leisiau merched, y gymuned queer a'r dosbarth gweithiol. Rwy'n barod wedi gweithio gyda Sparc ar brosiect radfa fawr 'Ymyriadau Pwerus' ar gyfer Gwyl y Llais 2021, grwp sgwennu 'Pencil Breakers' a chriw cwîar ifanc o wneuthurwyr ffilm, 'Prosiect Madison'.

Tom Stupple

Roedd cerddoriaeth yn achubiaeth wirioneddol i mi pan oeddwn yn iau a gwnaeth yr hyder y gwnaeth fy helpu i’w ganfod fy ysbrydoli’n fawr i ymwneud â chelfyddydau ieuenctid. Gan adeiladu ar radd mewn Addysg Cerdd a Chelf, datblygais wir frwdfrydedd am ddrama hefyd - roedd ei bŵer i ddod â phobl ynghyd yn ymddangos fel pe bai’n ateb hanfodol mewn byd sy’n ein gwthio ni oll ar wahân yn gynyddol.  Ers dechrau fel Gweithiwr Datblygu Celfyddydau Ieuenctid 16 blynedd yn ôl, rwyf wedi gweithio gyda grwpiau amrywiol a heriol ledled Cymru. 

Rwyf wedi rhedeg prosiectau creadigol mewn ysgolion, carchardai, canolfannau cymunedol a chanolfannau celfyddydol. Gweithiais fel Cyd-gyfarwyddwr Theatr Fforwm Cymru ac yn fwy diweddar fel Cynhyrchydd i Ganolfan Mileniwm Cymru. Yn fy rôl bresennol fel Ymarferydd Creadigol llawrydd, rwy’n rhedeg prosiectau i Sparc, Canolfan Mileniwm Cymru, Tanio, y GIG, cynghorau lleol a Chyngor Celfyddydau Cymru

Darllen Mwy

Ian McAndrew

Ian McAndrew ydw i, ac rwy’n weithiwr llawrydd sy’n gweithio ar draws rolau amrywiol o fewn y sector cyfranogi ac ymgysylltu â’r celfyddydau. Mae’r rolau hyn yn amrywio o ddarparu celfyddydau ieuenctid i reoli prosiectau. Mae gennyf ddiddordeb mawr ym mhob ffurf gelfyddydol a’r effaith y maent yn ei chael ar bobl a’u cymunedau. 

Rwy’n ffodus iawn fy mod wedi treulio 7 o fy mlynyddoedd datblygedig yn gweithio’n llawn amser i dîm Sparc; lle’r oeddwn yn gallu datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i greu gweithgareddau a rhaglenni pryfoclyd a deniadol ar gyfer plant a phobl ifanc. Ar hyn o bryd, rwy’n cefnogi’r Rhwydwaith Gwnewch E!, ochr yn ochr â darparu cefnogaeth ar gyfer Gweithdy Drama Rhydyfelin, fel Gweithiwr Cyswllt Sparc.

Darllen Mwy

Kyle Stead

Mae Kyle yn actor, yn gynhyrchydd ac yn weithiwr creadigol dosbarth budd-daliadau o Gwm Rhondda, De Cymru. Fe’i magwyd ar aelwyd rhiant sengl ar ystadau cyngor a dechreuodd ei daith yn y diwydiant creadigol drwy ysgrifennu barddoniaeth yn archwilio’r pethau a wynebodd fel person ifanc yn yr amgylchedd hwn.

Canfu’r celfyddydau a syrthiodd mewn cariad â nhw oherwydd yr ymdeimlad o ddihangfa y gwnaethant ei roi iddo o’r pethau a wynebodd fel unigolyn ifanc, ond bellach mae eisiau troi hynny ar ei ben a’u defnyddio i gyflwyno cynrychiolaeth amrwd o’i wreiddiau. Cyd-sefydlodd Off Ya Trolley Productions i hyrwyddo lleisiau artistiaid a chymunedau dosbarth gweithiol. Mae eisiau brwydro yn erbyn tangynrychiolaeth mewn perthynas ag artistiaid o gefndir economaidd-gymdeithasol is a gwneud y celfyddydau mor amrywiol â phosibl.

Ar hyn o bryd, mae Kyle yn gweithio fel Cynhyrchydd Creadigol Cynorthwyol gydaTheatrau RhCT. Mae wedi derbyn Bwrsariaeth Greadigol Weston Jerwood 2020-2022. Dechreuodd perthynas Kyle â Sparc a Phlant y Cymoedd pan ddechreuodd fynychu eu Sesiynau Drama Ieuenctid. Cafodd ei gefnogi yn ddiweddarach gan Blant y Cymoedd a Sparc drwy raglen addysg amgen.

Darllen Mwy

Ryan Stead

Mae Ryan yn Actor ac yn Weithiwr Creadigol Llawrydd o Gwm Rhondda, De Cymru. Graddiodd Ryan gyda gradd BA mewn actio yn 2019 ac aeth ymlaen i gyd-sefydlu Off Ya Trolley Productions, sef cwmni cynhyrchu theatr lleol o’r Rhondda, a sefydlwyd i gynrychioli a hyrwyddo artistiaid a chymunedau dosbarth gweithiol. 

Mae gan Ryan berthynas sefydledig â Phlant y Cymoedd a Sparc, ac ymunodd â’r tîm fel Gweithiwr Cyswllt Sparc, gan weithio fel hwylusydd celfyddydau llawrydd yn cefnogi sesiynau drama wythnosol.

Darllen Mwy

Beth Caudle

Beth Caudle ydw i ac rwy’n ymarferydd creadigol ac yn storïwr. Cefais fy magu yng nghefn gwlad Cernyw a deffrodd y tirlun hudolus a’i nifer o fythau a chwedlau gariad ynof am ddarganfod a rhannu storïau. Mae’r daith hon wedi mynd â mi i bob cwr o’r DU lle rwyf wedi gweithio yn gwneud gwaith theatr i deuluoedd ac arwain prosiectau drama, dweud storïau a syrcas gyda nifer o wahanol gymunedau a grwpiau. Rwyf bellach yn byw yng Nghaerdydd a bues yn ddigon ffodus i weithio gyda thîm Sparc yn llawn amser a bellach fel gweithiwr llawrydd am bron i bedair blynedd.

Rwyf wedi bod wrth fy modd yn dod i adnabod Cymoedd hyfryd De Cymru a’u pobl a’u cymunedau anhygoel. Rwy’n frwdfrydig iawn ynghylch archwilio sut y gall dweud storïau a chreadigrwydd gefnogi llesiant. Fel rhan o dîm Sparc ac mewn partneriaeth â thîm Teuluoedd y Dyfodol Plant y Cymoedd, rheolais brosiect dweud storïau therapiwtig o’r enw Puddle Jump a oedd yn cefnogi plant a theuluoedd sy’n agored i niwed drwy’r cyfnodau clo Covid-19. Roeddwn wrth fy modd i gael fy ngwahodd i fod yn weithiwr cyswllt i Sparc ac ni allaf ddisgwyl i weld beth ddaw yn y dyfodol gyda thîm creadigol a phobl ifanc arbennig Sparc.

 

Darllen Mwy