
Ein Cyfeillion
Mae Sparc yn falch o gael rhestr mor fawr o ffrindiau, partneriaid a chefnogwyr sydd oll yn ein helpu i wneud Sparc yn digwydd. Edrychwch ar ein ffrindiau isod, a dilynwch y dolenni i'w gwefannau.
Daeth Sparc yn sefydliad a fyddai’n derbyn cyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn 2001 fel rhan o’u portffolio Celfyddydau Cymunedol.
Fe dderbynion ni’n grant loteri cyntaf yn 1998; galluogodd hyn ni i sefydlu prosiect celfyddydau ieuenctid Valleys Kids oedd yn cael ei alw’n wreiddiol yn ArtWorks. Mae gennym berthynas ardderchog gyda’n cyllidwr craidd ac rydym yn eithriadol o ddiolchgar am eu cefnogaeth. Rydym wedi gweithio gyda chyfres o swyddogion cyllid dros y blynyddoedd ac mae’n gwaith bob amser wedi bod yn uchel ei barch. Cymerwn ddiddordeb ymarferol mewn digwyddiadau, cynadleddau a rhwydweithiau sy’n cael eu rhedeg gan y sector, gan gydweithio gyda sefydliadau cymunedol a chelf ieuenctid eraill i sicrhau’n bod yn cyflenwi’r gwaith gorau bosib yng Nghymru gyda’n pobl ifanc ac ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd.
Mae Plant y Cymoedd a Chanolfan Mileniwm Cymru wedi bod yn datblygu partneriaeth greadigol a strategol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae Sparc yn gweithio’n agos gyda’r Tim Dysgu Creadigol er lles pawb o’n pobl ifanc.
Rydym wedi derbyn cyllid gan Sefydliad Paul Hamlyn i ddatblygu’n gwaith artistig men cydweithrediad â’n pobl fanc. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys gweithdai blasu yn ein cymunedau a chanolfannau teulu; canolfannau preswyl i artistiaid; Haciau Bywyd ble gall pobl ifanc yn ein cymunedau gyfarfod a gweithio gyda gweithwyr diwydiant proffesiynol; gorsaf radio yn cael ei pherchnogi a’i harwain gan bobl ifanc; Platfform Radio yn y Cymoedd; a datblygu perthnasau cryfach rhyngom fei partneriaid; bydd hyn i gyd yn denu rhai newydd i gyfranogi yn ein gwaith.
Cynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru yw Noson Allan, sy’n helpu sefydliadau lleol i ddod â pherfformiadau proffesiynol i adeiladau cymunedol am brisiau gostyngol trwy gymhorthdal.
Mae’n brofiad rhagorol sy’n ein galluogi i ddod â theatr broffesiynol i bobl ifanc a theuluoedd na fyddent yn gallu ei fforddio fel arall. Trwy’r cynllun mae Sparc yn gallu rhaglennu amrywiaeth o gynyrchiadau ar gyfer pob oed a chefndir. Bydd pobl ifanc o’n theatrau ieuenctid yn helpu gyda chreu rhaglenni marchnata, cymorth technegol, croesawu a Blaen y Tŷ gan , gan roi sgiliau trosglwyddadwy iddyn nhw a’u galluogi i ryngweithio gyda’r cyhoedd a chreu cysylltiadau gyda’r cwmnïau sydd bob amser yn gwneud sylwadau am y croeso cynnes maen nhw’n ei dderbyn a’r amgylchedd cynhwysol a chefnogol sydd ar gael iddyn nhw.
Dawns Afon yw’r darparwyr ar gyfer ein dosbarthiadau dawns gymunedol greadigol yn Soar, sy’n agored i blant 4-15 oed.
Rydym wedi bod yn bartneriaid gyda Dawns Afon ers i’r prosiect gael ei lansio’n swyddogol, ac wrth ein bodd yn gweithio mewn ffordd gynhwysol a chydweithredol. Mae Sparc yn cefnogi Afon gyda’u dawns flynyddol ac mae’r ddau brosiect wedi cydweithio ar lawer o brosiectau eraill.
Rydym wedi adeiladu perthynas hir gyda Mess Up The Mess; prosiect Celfyddydau Ieuenctid a leolwyd yn Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn dod â phobl ifanc at ei gilydd i gydweithio, rhwydweithio, cymryd rhan mewn cyrsiau preswyl a gweithio’n greadigol gyda’n gilydd. Cynigiwn gefnogaeth trwy gynnal perfformiadau yn ein lleoliad a dathlu’r gwaith.
Rydym wedi bod yn ffodus iawn yn y gorffennol i fod wedi derbyn cyllid gan Sefydliad Esmée Fairbairn am 9 mlynedd i gefnogi ein gwaith craidd; mae hyn wedi bod yn gwbl amhrisiadwy, gan ein galluogi i gyrraedd y bobl ifanc sydd ein hangen fwyaf.
Fe wnaethon ni ganolbwyntio ar dri chanlyniad allweddol, sef meithrin hyder a gwydnwch yn yr ysgol, gartref ac yn gymdeithasol. Datblygu llwybrau i addysg a hyfforddiant a galluogi ein cyfranogwyr i ennill sgiliau meddwl beirniadol drwy'r celfyddydau gan gynyddu cymhelliant a dyheadau a chysylltu pobl ifanc yn agosach â byd gwaith.
Mae Valleys Kids wedi bod yn gysylltiedig blaenorol â Tate Exchange ‘lle i bawb gydweithio, profi syniadau a darganfod safbwyntiau newydd ar fywyd, trwy gelf.
Mae'n rhaglen flynyddol sy'n dod ag artistiaid rhyngwladol, dros 60 o bartneriaid sy'n gweithio o fewn a thu hwnt i'r celfyddydau, gan weithio'n uniongyrchol gyda'r rhaglen cysylltiadau cyhoeddus ynghyd ar Lefel 5 yn Adeilad Blavatnik, Tate Modern. Thema'r rhaglen ar gyfer y flwyddyn gyntaf oedd 'Cyfnewid'.
Mewn ymateb i hyn, bu aelodau Theatr Ieuenctid Penygraig dan arweiniad Claire Hathway yn cydweithio â'r Artist Byw Kelly Green a phobl ifanc o Goleg Astor yng Nghaint i greu eu gwaith artistig eu hunain fel rhan o 'Waste Not, Want Not' gan archwilio a chyfnewid syniadau ynghylch dosbarth, ymyleiddio a digartrefedd. Roedd hyn yn bwydo i'r thema gyffredinol 'Ffair Celf, Gwleidyddiaeth a Syniadau' ar y cyd rhwng Valleys Kids gan gynnwys Sparc a'n Hartist Preswyl Anne Culverhouse Evans, People United, Prifysgol Caint, Biennale Whitstable a Phrifysgol Canterbury Christchurch (CCCU). Roedd yn brofiad anhygoel a newidiodd fywyd i'r bobl ifanc a oedd yn perfformio ac yn rhyngweithio â'r cyhoedd yn Tate Modern yn ystod Gwyliau'r Pasg 2017.
Yn 2018, ein thema ar gyfer Tate Exchange oedd ‘Cynhyrchu’; roedd yr un partneriaid (ac eithrio Biennale Whitstable) yn edrych ar thema gyffredinol ‘Cynhyrchu’r Arall.’ Trwy ffilm, theatr a dadl fyw, adeiladodd Theatr Ieuenctid Rhydyfelin ofod ieuenctid dros dro yn Tate Modern i archwilio perthynas y cyhoedd ag ieuenctid fel ‘arall’. Beth sy’n digwydd pan gaeodd ein clwb ieuenctid yn ddiweddar? Beth yw’r effaith ar bobl ifanc pan wrthodir mynediad iddynt i fannau cyhoeddus? Sut mae hyn yn effeithio arnynt hwy a’r gymuned ehangach? Roeddent yn Tate Modern yn ystod Hanner Tymor y Gwanwyn rhwng dydd Mercher 30ain o Fai a dydd Sadwrn 2il o Fehefin 2018.
Mae ein Cyfarwyddwr Artistig hefyd yn rhan o'r grŵp 'melin drafod' ar gyfer partneriaid, gan gynnwys cynrychioli partneriaid yn y grŵp Rhaglenni ar gyfer Tate Exchange.
Rhwydwaith oedd Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru (YANC) a oedd yn dod â gweithwyr celfyddydau ieuenctid, artistiaid sy'n dod i'r amlwg a myfyrwyr ynghyd i rannu a chydweithio.
YANC held a yearly Casgliad at the Wales Millennium Centre on the 28th/29th of April 2019 with workshops and master classes across key areas of youth arts including diversity, engagement, mental health, and inclusion. Our Artistic Director is a founding member of the network and is currently the Secretary of YANC.
Mae Sparc wedi bod yn ymwneud â National Theatre Wales o’r dechrau’n deg, rydym yn aelod o’r Tîm a gwahoddwyd ein haelodau i gyfrannu at ddatblygu sgriptiau gyda chynhyrchion proffesiynol fel ‘Love Steals us from Loneliness’ a ‘A Good Night Out in the Valleys’.
Aethom ar daith fer gyda ‘Village Social’ ble perfformiodd ein pobl ifanc ochr yn ochr â rhai proffesiynol yn y Cymoedd, Abertawe a Sir Benfro. Byddwn yn derbyn tocynnau am ddim neu am bris isel ar gyfer perfformiadau noson gyntaf, sy’n werthfawr iawn i’n pobl ifanc gan eu galluogi i gael mynediad i theatr ansawdd uchel a fyddai allan o’u cyrraedd fel arall.
Rydym wedi bod yn bartneriaid i Gelfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru (CCIC) ers blynyddoedd lawer, gan sefydlu perthynas waith glir.
Buom yn gweithio’n agos gyda National Youth Theatre Wales (NYTW) i gyfeirio rhai o’n pobl ifanc addawol i wneud cais am eu rhaglenni gwaith. Yn fwy diweddar, buom yn cydweithio gyda NYTW i ddarparu profiad ysbrydoledig i’n pobl ifanc a rhai o blith ein sefydliadau sy’n bartneriaid i archwilio ffyrdd newydd o weithio’n greadigol. Cafodd ymarferwyr o Sparc a CCIC y cyfle hefyd i ymarfer a symbylu datblygiad proffesiynol ar gyfer y ddau sefydliad. Edrychwn ymlaen at beth bynnag all digwydd yn y dyfodol rhwng Sparc and CCIC.
Partneriaeth yw ArtWorks Cymru sydd wedi ei lleoli yng Nghymru ac yn datblygu gwaith mewn lleoliadau sy’n cyfranogi, gan hybu datblygiad proffesiynol parhaus artistiaid ar wahanol gyfnodau o’u gyrfaoedd a gweithio mewn lleoliadau cyfranogol, a phwysleisio gwerth cymryd rhan yn y celfyddydau.
Trwy Valleys Kids, mae Sparc yn un o’r partneriaid sy’n gweithredu a llunio’r rhaglen. Roedd ein Cyfarwyddwr Artistig yn rhan o’r grŵp oedd yn gyfrifol am greu’r Egwyddorion Ansawdd fel offer ymarferol i alluogi ymarferwyr i werthuso eu gwaith yn effeithiol.
Rydym wedi bod yn ffodus iawn i weithio mewn partneriaeth â'r BFI dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf.
Roddem yn ddigon ffodus i sicrhau cyllid ar gyfer offer i fynd â’r profiad o sinema i’n canolfannau Valleys Kids. Rydym yn gwneud ein profiadau sinema’n wahanol trwy drochi’n cynulleidfaoedd a chynnig digwyddiadau thematig iddyn nhw. Mae’r digwyddiadau’n rhai fforddiadwy fel y gall teuluoedd fwynhau noson hyfryd mas gyda’i gilydd.
Mae gennym berthynas waith hyfryd gyda’r cwmni sy’n ein galluogi i ddod â’r diweddaraf a’r gorau o fyd y sinema i gymunedau Valleys Kids.
Webber Design (Casnewydd) oedd ein partneriaid dylunio ar ein taith i enwi a brandio Artworks fel Sparc, ac edrychwn ymlaen at bartneriaeth fydd yn para’n hir.
Yn 2015 ar ôl cyfnod Ymchwil a Datblygu hynod lwyddiannus roedd pobl ifanc o Sparc yn allweddol wrth gynnig am grant Syniadau, Pobl a Lleoedd, menter yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i archwilio sut y gall ymarfer y celfyddydau ddylanwadu ar adnewyddu ffisegol.
Un o’n partneriaid allweddol oedd Artes Mundi, gwobr gelfyddydol fwyaf y Deyrnas Unedig gyda ffocws ar y cyflwr dynol a chymdeithasol, sy’n dod ag artistiaid o bob rhan o’r byd i Gymru. Agorodd y bartneriaeth fyd newydd o ymarfer celfyddydau cyfoes i’n staff a’n pobl ifanc. Buom yn gweithio gyda’r artistiaid rhyngwladol Lucy a Jorge Orta, Owen Griffiths, Nils Norman a Rabab Ghazoul. Rydym wedi gweithio ym Mhenygraig a Threbanog lle bu pobl ifanc yn cymryd rhan ym mhopeth o grasu bara i wneud ffilmiau, gan archwilio’u cymunedau eu hunain a’r mannau ble bydden nhw’n hoffi gweld newid a datblygu.
Trivallis oedd y trydydd partner yn ein prosiect Syniadau Pobl a Lleoedd. Nhw yw’r prif ddarparwr tai cymdeithasol yn yr ardal gyda mwy na 10,000 o gartrefi.
Maen nhw’n un o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mwyaf Cymru. Gweithiodd Trivallis gyda ni trwy gydol y prosiect a nhw oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r Gwaith Cyfalaf gydag Artes Mundi gan weithio gydag Owen Griffiths a Nils Norman a Studio Orta’s, a lansiwyd ar 22 Mawrth yn y Ganolfan Gymunedol yn Nhrebanog. Mae gan Trivallis gysylltiad hir gyda Valleys Kids ac fe drefnon nhw ddyddiau Rhoi ac Ennill hynod lwyddiannus ym Mhenygraig.