Top Strip Image

Bryn Gwyn Bach

venue-littlebryngwyn

Bryn Gwyn Bach,
Cilibion,
nr, Llanrhidian,
Abertawe,
SA3 1ED

Ffôn: 01792 391131

Mae Plant yng Nghymu yn falch o fod yn berchen Bryn Gwyn Bach: ein darn bach o baradwys ar Benrhyn Gŵyr. Mae’r bwthyn bach wedi ei leoli union yng nghanol y penrhyn, lle delfrydol i archwilio’r golygfeydd a thraethau byd enwog.

Mae’r profiadau bythgofiadwy sydd i’w cael ym Mryn Gwyn Bach yn dod â lles enfawr i’n pobl ifanc trwy  eu helpu i ddatblygu eu hunan gred, hyder a sgiliau cyfathrebu. Fel y dywedodd un o’n Gweithwyr Ieuenctid “Gallwch wneud gwaith ieuenctid mwy effeithiol mewn un penwythnos ym Mryn Gwyn Bach nag mewn chwe mis cyfan mewn clwb ieuenctid.” Mae hefyd yn cynnig lle i gael seibiant i deuluoedd a all fod byth yn cael cyfle i gael gwyliau.

Mae grwpiau o brosiectau Plant y Cymoedd yn ymweld â Bryn Gwyn Bach trwy gydol y flwyddyn ac yn cymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau gan gynnwys cerdded yr arfordir, gwersylla, cyfeiriannu, teithiau beic, adeiladu tîm a sesiynau byw yn y gwyllt. Maen nhw hefyd yn dysgu am yr ecoleg leol ac yn cymryd rhan mewn helpu i wella’r 6 acer o dir sy’n amgylchynu’r bwthyn.

Beth Sydd Ymlaen? | Gweld y calendr digwyddiadau llawn

There are no upcoming events or workshops that matches this category. Please check the full calendar to see all upcoming events and workshops.

Dewch o Hyd I Ni

Address:
Little Bryn Gwyn,
Cilibion,
nr, Llanrhidian,
Swansea,
SA3 1ED